Lleoliad:
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Chwefror 2020
Amser:
08.30 -
09.15
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Dai Lloyd AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Lowri Hughes, Ysgrifenyddiaeth y Siambr |
Anfonodd Sian Gwenllian ei hymddiheuriadau; Roedd Dai Lloyd yn bresennol yn ei lle.
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dywedodd y Trefnydd fod disgwyl i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gymryd rhan mewn cyfarfod COBRA brynhawn dydd Mercher, a gofynnodd a fyddai'r Rheolwyr Busnes yn cytuno i aildrefnu busnes fel y cynhelir dadl y Ceidwadwyr yn syth ar ôl y cwestiynau llafar am 3pm. Byddai hynny'n galluogi'r Gweinidog i ymateb i ddadl y Ceidwadwyr a chymryd rhan yng nghyfarfod COBRA. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i aildrefnu busnes yn unol â hynny.
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dosbarthodd y Trefnydd gopi diwygiedig o'r amserlen:
Dydd Mawrth 25 Chwefror 2020 -
Dydd Mawrth 3 Mawrth 2020 -
· Dadl: Cynnydd ar Fynd i'r Afael â Throseddau Casineb (60 munud)
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 11 Mawrth 2020 –
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytuno ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) gyda 22 Mai 2020 yn ddyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer Cam 1 a 16 Gorffennaf 2020 fel dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer Cam 2.
Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth yn bwriadu cyflwyno'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol ychydig cyn toriad yr haf. Gan fod y Rheolwyr Busnes am leihau'r pwysau amserlennu ar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, cytunwyd i ysgrifennu at y pwyllgor hwnnw ac at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch y Bil Partneriaeth Gymdeithasol.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i drefnu dadl ar y ddeiseb.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y cais a chytunwyd i gais y Pwyllgor i ymweld â Chaeredin ddydd Llun 23 Mawrth.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytuno ar y Rheol Sefydlog ddrafft a'r canllawiau cysylltiedig. Cytunwyd hefyd na ellid bwrw pleidlais drwy ddirprwy mewn pleidleisiau sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelodau sy'n cynrychioli dwy ran o dair o seddi'r Cynulliad bleidleisio o blaid y cynnig.
Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno adroddiad drafft ar newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i'r Pwyllgor Busnes yr wythnos ar ôl hanner tymor.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y papur gyda'u grwpiau a dychwelyd at y papur yn y cyfarfod cyntaf ar ôl y toriad hanner tymor.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i drafod â'u grwpiau a chynrychiolwyr y Comisiwn i ganfod a oes awydd i ymestyn yr amserlen arfaethedig i gynnwys dydd Iau, a/neu newid yr amseroedd a ddyrennir ar gyfer y cyfarfod llawn. Bydd y Rheolwyr Busnes yn dychwelyd at y papur ar ôl hanner tymor.